Llywodraeth Cymru 
  
 
 
 Codi tâl am arddangosfeydd
 Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
 16/07/2025

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ei adroddiad ar y posibilrwydd o godi tâl i gyfrannu'n ystyrlon at incwm amgueddfeydd ac orielau. Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw.

Cynnwys

1.         Rhagair. 3

2.        Ymateb.. 4

Argymhelliad 1. 4

Argymhelliad 2.. 5

Argymhelliad 3.. 5

Argymhelliad 4.. 6

Argymhelliad 5.. 7

 

 

1.            Rhagair

Yn 2001, cyflwynwyd mynediad am ddim i'r amgueddfeydd cenedlaethol yng Nghymru. Nod y polisi hwn, a gyflwynwyd cyn gweddill y DU, yw sicrhau bod y casgliadau cenedlaethol yn hygyrch i bawb ac annog ystod amrywiol o ymwelwyr. Diolch i'n cyllid, gall ymwelwyr barhau i fynd i mewn i bob un o saith safle Amgueddfa Cymru am ddim. Mae'r profiadau anhygoel y mae'r amgueddfeydd yn eu cynnig yn parhau i gael eu cydnabod, yn fwyaf diweddar gydag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar restr fer Gwobr Amgueddfa Groesawgar i’r Teulu gan elusen Kids in Museums.

Adlewyrchir ein hymrwymiad parhaus i'r polisi hwn yn ein Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, sy'n cynnwys y dyhead bod ‘diwylliant yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn amrywiol’. Er bod mynediad am ddim, gall amgueddfeydd cenedlaethol ledled y DU godi tâl am y profiadau a gaiff eu curadu, gan gynnwys rhai arddangosfeydd dros dro a digwyddiadau arbennig, ac maent yn gwneud hynny. Fel corff hyd braich, mater i Amgueddfa Cymru yw gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylid gofyn am rodd neu godi tâl am brofiadau a gaiff eu curadu. Er enghraifft, yn ddiweddar gofynnodd Amgueddfa Cymru i ymwelwyr dalu ffi fach i weld hunanbortread byd-enwog Van Gogh fel rhan o arddangosfa Drych ar yr Hunlun yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. 

Mae Amgueddfa Cymru yn parhau i archwilio a threialu gwahanol ddulliau codi tâl i'w helpu i godi incwm ychwanegol y gall ei ailfuddsoddi yn ei safleoedd a'i chasgliadau. Amgueddfa Cymru, dan arweiniad ei Bwrdd Ymddiriedolwyr, sy'n gyfrifol am asesu ei threialon codi tâl. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru i sicrhau bod mynediad cyfartal yn cael ei ddiogelu wrth gynhyrchu incwm o brofiadau premiwm.

Mae llawer o amgueddfeydd lleol hefyd yn cynnal arddangosfeydd sy'n darparu cyfleoedd i gymunedau ddathlu diwylliant a ffyrdd newydd o ymwneud ag ef. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector amgueddfeydd lleol ac Amgueddfa Cymru i'w galluogi i gynnal arddangosfeydd.

Diolchaf i aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol am yr adroddiad ar godi tâl am arddangosfeydd. Rwyf wedi nodi fy ymateb i argymhellion unigol yr adroddiad isod.

 

Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

2.         Ymateb

Yn y bennod hon rwyf wedi amlinellu fy ymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Rwyf wedi ystyried pob un o'r pum argymhelliad yn ofalus ac wedi ymateb i bob un, gan nodi a ydynt wedi cael eu derbyn, eu derbyn mewn egwyddor neu eu gwrthod. Ar gyfer pob ymateb, rwyf hefyd wedi nodi a oes unrhyw oblygiadau ariannol.

Argymhelliad 1

Argymhelliad: Rydym yn argymell bod polisi Llywodraeth Cymru o fynediad am ddim i'r amgueddfeydd cenedlaethol yn cael ei gadw. Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid digonol i Amgueddfa Cymru i hwyluso hyn.

Ymateb: Derbyn

Gall ymwelwyr gael mynediad i bob un o saith safle Amgueddfa Cymru am ddim ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gadw mynediad am ddim i'n casgliad cenedlaethol. Mae adroddiad y Pwyllgor yn tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae ein polisi mynediad am ddim wedi'i chael, gyda nifer yr ymwelwyr yn dyblu a chyfran y grwpiau economaidd-gymdeithasol is sy'n ymweld yn ehangu i oddeutu 30 y cant, fel y nodir yn Adroddiad Thurley[1].

Mae Amgueddfa Cymru yn un o drysorau diwylliant Cymru ac mae llawer i'w ddathlu o ran ei gwaith. Dyna pam yr wyf yn falch iawn bod ein Cyllideb Derfynol ar gyfer 2025 i 2026 yn cynnwys cynnydd o 8.5% i Amgueddfa Cymru o'i gymharu â chyllideb refeniw y flwyddyn flaenorol. Nid wyf o dan unrhyw gamargraff am yr heriau sy'n wynebu Amgueddfa Cymru ac mae ei chyllideb refeniw ar gyfer 2025 i 2026 yn gam sylweddol ymlaen, gan ddarparu cyfle gwirioneddol i symud tuag at sylfaen fwy diogel a chynaliadwy.

Mae ein gwariant cyfalaf i helpu i ddiogelu ac amddiffyn asedau diwylliannol a threftadaeth Cymru yn y dyfodol bellach dros dair gwaith yr hyn ydoedd ddegawd yn ôl. Yn 2025 i 2026, mae Amgueddfa Cymru yn parhau i gael cymorth grant cyfalaf gwerth £5m ac rydym hefyd yn darparu cyfalaf ychwanegol o £9.2m i gefnogi gwelliannau â blaenoriaeth ar draws ei hystad. Rydym hefyd yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio pa gymorth cyfalaf y gallwn ei gynnig i'w helpu i gyflawni gwaith y mae wedi'i nodi a allai gyflawni ymhellach yn erbyn y Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant.

Goblygiadau Ariannol: Caiff hyn ei ddarparu o fewn cyllidebau presennol. Cyllideb refeniw cymorth grant Amgueddfa Cymru wedi'i diweddaru ar gyfer 2025-26 yw £27,789,000.

Argymhelliad 2

Argymhelliad: Rydym yn argymell na ddylai unrhyw incwm o arddangosfeydd ddisodli'r angen i Lywodraeth Cymru ariannu Amgueddfa Cymru yn ddigonol.

Ymateb: Derbyn

Rwy'n cefnogi Amgueddfa Cymru yn ceisio cynyddu ei chynaliadwyedd ariannol drwy weithgarwch cynhyrchu incwm priodol sy'n ychwanegol at ei chymorth grant. Dyma un o'r prif amcanion y bydd angen eu cyflawni a nodir yn ei llythyr cylch gwaith tymor y llywodraeth[2]. Mae codi tâl yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arddangosfeydd ar raddfa mwy, a gynhelir am gyfnod cyfyngedig, oherwydd eu gallu i gynhyrchu incwm. Mae nifer o fanteision eraill i Amgueddfa Cymru o gynnal arddangosfeydd. Mae arddangosfeydd yn creu cyfleoedd drwy gydol y flwyddyn i ddathlu diwylliant yn ei holl amrywiaeth, gan greu cyfleoedd newydd i bobl gymryd rhan ac ymwneud â diwylliant yn ogystal ag elwa ar arbenigedd a brwdfrydedd Amgueddfa Cymru. Yn bwysig, maent hefyd yn darparu cyfleoedd i gymunedau benderfynu ar yr hyn sy'n cyfrif fel diwylliant a'u cynnwys hwy yn y broses o wneud penderfyniadau. Yn unol â'r egwyddor hyd braich, mater i Amgueddfa Cymru ydyw i wneud penderfyniad curadurol ar faint o arddangosfeydd a'r mathau o arddangosfeydd y mae'n eu cynnal ar ei safleoedd a thrwy ei phartneriaethau.

Goblygiadau Ariannol: Caiff hyn ei ddarparu o fewn cyllidebau presennol. Cyllideb refeniw cymorth grant Amgueddfa Cymru wedi'i diweddaru ar gyfer 2025-26 yw £27,789,000.

Argymhelliad 3

Argymhelliad: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ei gwneud yn glir bod yr egwyddor o fynediad am ddim i safleoedd yr amgueddfeydd cenedlaethol yn ymestyn i'r daith o dan y ddaear yn Big Pit.

Ymateb: Gwrthod

Mae'n bwysig ein bod yn rhoi'r amser sydd ei angen ar Amgueddfa Cymru i gasglu data pellach fel y gall wneud penderfyniad sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar sut y gall ei chynigion codi tâl gyfrannu orau at gynaliadwyedd ariannol gan ddiogelu mynediad cyfartal.

Fel sy'n digwydd mewn amgueddfeydd cenedlaethol eraill yn y DU, gall Amgueddfa Cymru ddewis codi tâl am y daith fel profiad premiwm. Nid oes unrhyw bŵer yn y Siarter Frenhinol i Weinidogion Cymru gyfarwyddo Amgueddfa Cymru ar ei pholisi yn hyn o beth.

Tynnwyd sylw at yr angen i Amgueddfa Cymru ddod yn fwy cynaliadwy yn ariannol yn adroddiad terfynol panel yr adolygiad teilwredig[3]. Mae codi tâl am deithiau o dan y ddaear, sy'n gofyn am fuddsoddiad ychwanegol o ran amser, adnoddau ac arbenigedd, yn caniatáu i Amgueddfa Cymru ailfuddsoddi'r incwm a gynhyrchir yn ôl i safleoedd yr amgueddfa, er mwyn gwella profiad ehangach yr ymwelwyr ymhellach.

Yn ystod y cyfnod treialu estynedig yn Big Pit, bydd Amgueddfa Cymru yn parhau i gynnig tocynnau am ddim i aelodau Hynt, Aelodau Amgueddfa Cymru a grwpiau ysgol yn ogystal â chonsesiynau agored i unigolion a theuluoedd. Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn datblygu diwrnodau a digwyddiadau am ddim ar gyfer y gymuned leol.

Goblygiadau Ariannol: Dim

Argymhelliad 4

Argymhelliad: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio sut y gall helpu sefydliadau i gynnal arddangosfeydd dros dro.

Ymateb: Derbyn

Drwy Celf (yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol wasgaredig i Gymru) rydym yn helpu i wneud y casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes yn Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen. Mae datblygu Celf wedi bod yn flaenoriaeth allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu, gan dderbyn buddsoddiad o bron i £7.5m yn ystod tymor y Senedd hon. Drwy raglen fenthyca helaeth, bydd pobl yng Nghymru yn gallu archwilio'r casgliadau yn lleol, o fewn y naw lleoliad sy'n aelodau o'r rhwydwaith o orielau. Gyda chymorth y prosiect, gall yr orielau ehangu eu rhaglen arddangos, gan gynnig amrywiaeth ehangach o gelf gyfoes i'w hymwelwyr, yn ogystal â dod â darnau ffres ac amrywiol i'w rhannu â'u cynulleidfaoedd.

Bydd ein buddsoddiad parhaus yng ngwaith ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru yn helpu i greu mwy o fannau arddangos, gan ganiatáu i Amgueddfa Cymru adrodd stori tirwedd llechi UNESCO sy'n arwyddocaol yn rhyngwladol. Rydym hefyd yn buddsoddi yn ein sector amgueddfeydd lleol trwy ein Grant Cyfalaf Trawsnewid. Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi bron i £7m mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol. Mae rhan o'r cyllid hwn wedi cefnogi amgueddfeydd lleol i wella eu mannau arddangos yn ogystal â'u cefnogi i fynd ati i uwchraddio eu cyfleusterau yn ehangach. Mae'r costau cymwys ar gyfer y cynllun Grantiau Cyfalaf Blaenoriaethau newydd ar gyfer Diwylliant i amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau lleol hefyd yn cynnwys gwelliannau i fannau dehongli, mynediad ac arddangos.

Trwy Gynllun Indemniad y Llywodraeth (GIS) rydym yn darparu dewis arall yn lle yswiriant masnachol, gan alluogi gwrthrychau celf a diwylliannol i gael eu benthyg gan fenthycwyr preifat neu sefydliadau nad ydynt yn rhai cenedlaethol at ddibenion arddangos neu ymchwil. Mae'r cynllun hwn ar gael i amgueddfeydd cenedlaethol a rhai nad ydynt yn rhai cenedlaethol, gan alluogi benthyca gwrthrychau ar gyfer arddangosfeydd na fyddai fel arall wedi bod yn bosibl oherwydd costau yswiriant gormodol.

Yn ein rôl fel asiantaeth datblygu'r sector, rydym yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru a'r sector amgueddfeydd lleol i rannu arferion da, datblygu sgiliau, mynediad i'r casgliad cenedlaethol ar gyfer arddangosfeydd ac i arbenigedd Amgueddfa Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector amgueddfeydd lleol ac Amgueddfa Cymru i archwilio pa gymorth pellach ar gyfer arddangosfeydd y gallai fod ei angen arnynt a'r sector lleol.

Goblygiadau Ariannol: Caiff hyn ei ddarparu o fewn cyllidebau presennol.

Argymhelliad 5

Argymhelliad: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut mae telerau Cynllun Indemniad y Llywodraeth yn ymwneud â sefydliadau cenedlaethol yn benthyca eitemau ar gyfer arddangosfeydd dros dro.

Ymateb: Derbyn

Mae Cynllun Indemniad y Llywodraeth yn galluogi gwrthrychau celf a diwylliannol i gael eu benthyca gan fenthycwyr preifat a sefydliadau nad ydynt yn rhai cenedlaethol at ddibenion arddangos a / neu ymchwil. Mae'n ddewis amgen i yswiriant masnachol ac yn darparu yswiriant indemniad heb gostau ar gyfer colled neu ddifrod pan fydd eitemau ar fenthyg. I egluro, mae unrhyw sefydliad sy'n hygyrch i'r cyhoedd (gan gynnwys Amgueddfa Cymru) yn gymwys i wneud cais am yswiriant indemniad.

Mae'r Is-adran Diwylliant yn gweinyddu Cynllun Indemniad y Llywodraeth yng Nghymru ac mae mewn cysylltiad rheolaidd ag Amgueddfa Cymru o ran trefnu yswiriant ar gyfer eu benthyciadau cymwys. 

Goblygiadau Ariannol: Caiff hyn ei ddarparu o fewn cyllidebau presennol.



[1] www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-04/adolygiad-o-amgueddfa-cymru.pdff

[2] www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-01/llythyr-cylch-gwaith-amgueddfa-genedlaethol-cymru-2021-i-2026.pdf

[3] www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2023-07/amgueddfa-cymru-adolygiad-wedii-deilwra.pdf